Y mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyhoeddi ymchwil yn archwilio effaith mewnfudo newydd ar y cymunedau sydd yn eu derbyn, yn neilltuol ar gymunedau, integreiddio a chydlyniant. Yn seiliedig ar ymchwil a wnaed yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful, y mae’n archwilio safbwyntiau trigolion newydd a thrigolion sefydlog.
Fe ganfuwyd fod dosbarth cymdeithasol, hil, oed, rhyw, a chyfoeth a thlodi cymharol yn y cymunedau newydd a’r cymunedau sydd yn eu derbyn, fel ei gilydd, yn ffactorau allweddol o ran pennu pa fath o ‘gynhwysiant’ a ‘chydlyniant’ a fyddai’n ganlyniad i’r ymfudiadau newydd.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Sefydliad Joseph Rowntree.