Y mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cyhoeddi adroddiad sy’n rhybuddio bod cenhedlaeth newydd o blant mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol a hyd yn oed bod yn ddigartref oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i oresgyn rhianta gwael a chamdriniol.
Y mae’r adroddiad wedi’i seilio ar gyfweliadau manwl gyda bron 450 o bobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth yn eu canolfannau i’r digartref ledled y Deyrnas Unedig.
Fe ganfu’r adroddiad bod cyfran uchel iawn o bobl ddigartref y gwnaed arolwg ynglŷn â hwynt wedi cael plentyndod aflonyddgar, ac wedi dioddef camdriniaeth a pherthnasau problemus gyda’u teulu a chyfeillion ar hyn o bryd ac yn y gorffennol, fel ei gilydd.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Byddin yr Iachawdwriaeth.