Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
    Dogfennau Strategaeth & Cynlluniau Gweithredu
    Ymatebion a Safonau’r Llywodraeth
    Canllawiau, Cylchlythyrau a Safonau
    » Ymchwil ac Adroddiadau eraill
    Llyfrynnau a Thaflenni
    Ystadegau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
  • Lloegr, San Steffan a Whitehall
  • Gogledd Iwerddon
  • Yr Alban

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Dogfennau »Ymchwil ac Adroddiadau eraill
Ymchwil ac Adroddiadau eraill
Yr ydych yn Edrych ar: Dogfennau Cyfredol
Yn Ymwneud Â: I Gyd

Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn ag ymchwil ac ystod eang o adroddiadau eraill sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Tudalen 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6
Hadau Allgáu 2009, 02/07/09 [C/Ll/GI/A]
Y mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cyhoeddi adroddiad sy’n edrych ar dueddiadau ymysg pobl ddigartref 18-25 mlwydd oed.
Yr effaith a gaiff teuluoedd yn chwalu ar les plant: adolygiad o dystiolaeth, 25/06/09 [C/Ll/GI/A]
Fe wnaeth yr adolygiad gan Athrofa Addysg / Uned Ymchwil Thomas Coram roi sylw i broses teuluoedd yn chwalu a’i heffaith ar les plant, a sut y mae gwahanol ffactorau yn gweithredu i gynyddu neu i gyfyngu ar y risg o ganlyniadau andwyol.
Cyhoeddi adroddiadau ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru), 25/06/09 [C]
Y mae adroddiadau gan Bwyllgor Cyllid a Phwyllgor Is-ddeddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) wedi’u cyhoeddi.
Beth sydd ei angen i ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru?, 25/06/09 [C]
Y mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyhoeddi adroddiad ar dlodi ymysg plant yng Nghymru a’r hyn y mae ar Lywodraeth Cynulliad Cymru angen ei wneud er mwyn cyrraedd targed 2020.
Y Berthynas Wael? Gofal taid a nain: ble mae tlodi ymysg pobl hŷn a thlodi ymysg plant yn cyfarfod, 22/06/09 [C/Ll/GI/A]
Fe ddylai fod gan deidiau a neiniau fynediad at weithio hyblyg a thaliadau gofal plant i’w hatal rhag cael eu dal mewn “cylch amddifadedd”, yn ôl adroddiad oddi wrth yr elusen, Grandparents Plus.
Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) – Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor, 19/06/09 [C]
Y mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’i adroddiad Cam 1 y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru).
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Wasanaethau Mamolaeth, 19/06/09 [C]
Y mae adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod gofal mamolaeth yn gyffredinol yn cyrraedd safon briodol ond y mae yna wahaniaethau annerbyniol ledled Cymru.
Cadw golwg ar effaith y dirwasgiad ar amrywiol grwpiau demograffig, 17/06/09 [C/Ll/A]
Fe ddywed adroddiad, a gyhoeddwyd ar y cyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth, mai pobl ifanc, y sawl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig a dynion sydd wedi dioddef y codiadau mwyaf mewn diweithdra yn y dirwasgiad hyd yn hyn.
Plant: Dieuog hyd nes y profir hwy yn euog?, 17/07/09 [C/Ll]
Y mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi cyhoeddi cyfarwyddiad ar y defnydd o gadw ar remánd yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr.
Y berthynas rhwng camdriniaeth o blant, camdriniaeth rywiol ac ymdrechion diweddarach i gyflawni hunanladdiad,17/06/09 [C/Ll/GI/A]
Y mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant wedi cyhoeddi ymchwil sy’n gwerthuso’r cysylltiad rhwng camdriniaeth o blant a hunanladdiad yn ystod plentyndod neu’n ddiweddarach mewn bywyd, ac y mae’n edrych ar ffactorau risg eraill sy’n bresennol yn ystod plentyndod a blaenlencyndod cynnar sy’n debygol o ddwysáu effeithiau’r cyfryw gamdriniaeth.
Ymchwiliad i Hawliau Dynol, 16/06/09 [C/Ll]
Y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi’r adroddiad o’u hymchwiliad i hawliau dynol.
Fine art or science? Sentencers deciding between community penalties and custody for young people, 15/06/09 [C/Ll]
Y mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi cyhoeddi’r canfyddiadau oddi wrth astudiaeth o benderfyniadau dedfrydu a wnaed gan lysoedd. Y mae’n edrych ar y rhesymau pam bod rhai pobl ifanc yn cael eu dedfrydu i dreulio amser yn y ddalfa ac eraill yn cael dedfrydau cymunedol.
Clymblaid yr Elusennau Plant ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd: Maniffesto Digidol, 15/06/09 [C/Ll/GI/A]
Y mae Clymblaid yr Elusennau Plant ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (CHIS) yn galw am atal unigolion sy’n edrych ar ac yn rhannu delweddau anweddus o blant mewn ymgyrch newydd ynglŷn â diogelwch ar y rhyngrwyd.
Wynebwch yr her: swyddogaeth gwasanaethau lleol gyda chynyddu’r nifer sy’n cael at fudd-daliadau a chredydau treth i leihau tlodi ymysg plant, 12/06/09 [C/Ll/GI/A]
Y mae’r adroddiad hwn oddi wrth Uned Tlodi Plant y Deyrnas Unedig yn ystyried sut y gall gwasanaethau lleol leihau tlodi ymysg plant drwy gynorthwyo teuluoedd tlawd i gael at y budd-daliadau a’r credydau treth y mae ganddynt hawl iddynt.
Gwybodaeth reoli mewn gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol, 11/06/09 [C]
Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn amlygu’r angen i ddefnyddio systemau gwybodaeth reoli yn well ar bob lefel o wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol.
Bywyd Llawn Gofal – Gofalwyr Ifanc yng Nghymru 2009, 10/06/09 [C]
Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wedi lansio adroddiad ar ofalwyr ifanc yng Nghymru a ysgrifennwyd ganddyn nhw eu hunain.
Teuluoedd gyda phlant ym Mhrydain: canfyddiadau oddi wrth Astudiaeth Teuluoedd a Phlant 2007 (FACS), 09/06/09 [C/Ll/GI/A]
Y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Teuluoedd gyda Phlant ym Mhrydain: Canfyddiadau oddi wrth Astudiaeth Teuluoedd a Phlant’.
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Lwfans Cynhaliaeth Addysg, 09/06/09 [C]
Y mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i ddeiseb, a wnaeth alw am i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) gael ei seilio ar incymau myfyrwyr unigol, yn hytrach nag ar incymau aelwyd y rhieni.
Cadw golwg ar dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru 2009, 03/06/09 [C]
Y mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyhoeddi rhifyn 2009 o ddangosyddion tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru, gan ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr o dueddiadau.
Arfer orau mewn mathemateg ar gyfer disgyblion 3 i 7 oed, 02/06/09 [C]
Yn ôl adroddiad newydd a cyhoeddwyd gan Estyn, mae safonau addysgu mathemateg mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn gwella ar y cyfan, ond nid yw llawer o ysgolion yn rhoi digon o her i ddisgyblion weithio i’w llawn botensial.
Tudalen 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6
Dewiswch Faes Pwnc:
Pob Pwnc
Addysg
Anabledd
Atal Damweiniau Plant
Blynyddoedd Cynnar
Bwlio
Cydraddoldeb
Cyffredinol
Cyfranogi
Datblygu Cymunedol
Defnyddio Sylweddau
Diogelu Plant
Gofal Cymdeithasol
Gofal plant
Gofalwyr Ieuainc
Hamdden a Chwarae
Hawliau Plant
Iechyd
Ieuenctid
Mabwysiadu
Mewnfudo
Plant Sy’n Derbyn Gofal
Teuluoedd a Magu Plant
Tlodi
Trosedd a Chyfiawnder
Y Cyfryngau
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313