Y mae Canllaw Rhwydweithio Cymdeithasol cyntaf y Deyrnas Unedig yn darparu cyngor i ddiwydiant, rhieni a phlant ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel ar-lein.
Y mae hwn wedi’i ddatblygu gan dasglu o gynrychiolwyr o faes diwydiant, elusennau ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith, yn cynnwys Vodafone, y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP), a’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC).
Y mae’r canllaw ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Swyddfa Gartref.