Mae’r cod ymarfer hwn yn nodi egwyddorion a chanllawiau a fydd yn helpu mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddiogelu lles y plant a’r bobl ifanc dan 18 oed y maent yn gweithio gyda nhw.
Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol bach nad ydynt yn destun arolygiad a/neu reoliadau ar hyn o bryd.
Gallai hyn gynnwys grwpiau celfyddydau, hobïau a drama, er y gall fod yn ddefnyddiol i amryw o grwpiau eraill hefyd.
Mae’r cod yn ceisio galluogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddefnyddio polisïau ac arferion rheoli da fel dull o atal cam-drin plant yn gorfforol, yn rhywiol ac yn emosiynol pan fyddant yng ngofal y mudiad.