Mae’r Cylchlythyr hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi canllawiau i awdurdodau addysg lleol (AALlau) ar raglen y Gronfa Ysgolion Gwell ar gyfer 2008-09.
Mae’n disgrifio’r Meysydd Gweithgaredd a Blaenoriaeth sy’n gymwys am gymorth grant o fewn y rhaglen, trefniadau rheoli’r rhaglen ynghyd â’r wybodaeth y dylai AALlau ei darparu. Mae hefyd yn cynnwys manylion ynghylch y grant a ddyrennir i bob AALl a’r trefniadau ar gyfer hawlio a thalu grantiau.
Mae’r Cylchlythyr hefyd yn gofyn i AALlau gyflwyno cynlluniau gwariant ffurfiol i’w cymeradwyo gan y Cynulliad ac yn rhoi manylion ynghylch pob Maes Gweithgaredd a Blaenoriaeth fel sail ar gyfer paratoi, monitro a darparu’r cynlluniau hynny.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r dogfen.