Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau i gyrff llywodraethu ar ddatblygu gweithdrefnau chwythu’r chwiban ar gyfer staff ysgolion a pholisi enghreifftiol i gyrff llywodraethu ei fabwysiadu.
Nod y canllawiau yw sicrhau y gall staff ysgolion a gynhelir fynegi pryderon am ymddygiad neu arfer a allai fod yn anghyfreithlon, yn llwgr, yn amhriodol, yn anniogel neu’n anfoesegol neu sy’n gyfystyr â chamymddygiad, mewn modd diogel a phroffesiynol.
Fe ellir lawrlwytho’r canllawiau oddi wrth wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.