Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’r canllawiau hyn ar gyfer y cyrff a enwir yn Adrannau 28 a 31 Deddf Plant 2004. Y bwriad wrth ei wraidd yw eu cynorthwyo hwynt i adolygu’u polisïau, eu gweithdrefnau a’u harferion cyfredol. Fe roddir arweiniad ynglŷn â dadansoddi’r sefyllfa gyfredol o ddiogelu a hyrwyddo lles plant o fewn eu cyrff a phenderfynu ar ba gamau i’w cymryd yn y dyfodol i weithredu’r canllawiau.
Y mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cynulliad.