Y mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a phrifathrawon ynglŷn â sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion ble y mae disgyblion yn gysylltiedig fel achwynyddion, tystion neu pan wneir cŵyn yn eu herbyn. Y mae’r canllawiau hyn yn atodol i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyrff llywodraethu yng Nghylchlythyr 03/2004 ‘Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion’.
Fe ellir llwytho’r ddogfen i lawr oddi ar wefan y Cynulliad.