Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â gwneud cais am orchmynion amddiffyn priodi dan orfod a gwybodaeth i asiantaethau eraill.
Fe all unrhyw un sydd dan fygythiad o briodas dan orfod neu sy’n cael eu gorfodi i briodi yn erbyn eu hewyllys wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod. Fe all trydydd partïon, megis perthnasau, cyfeillion, gweithwyr gwirfoddol a swyddogion yr heddlu, hefyd wneud cais am orchymyn amddiffyn gyda chaniatâd y llys.
Fe all awdurdodau lleol yn awr ymofyn gorchymyn amddiffyn ar gyfer oedolion diymgeledd a phlant, heb ganiatâd y llys.
Mae’r canllawiau yn egluro sut y gall awdurdodau lleol wneud cais am orchmynion amddiffyn, ac maent yn darparu gwybodaeth i asiantaethau eraill.
Mae’r Canllawiau ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.