Mae'r Cod Ymddygiad wrth Deithio cyntaf i Gymru gyfan wedi'i gyhoeddi, a'i nod yw hyrwyddo ymddygiad da a gwella diogelwch disgyblion sy'n teithio i'r ysgol a'r coleg.
Bydd y Cod, sydd yn dod i rym ar ddechrau tymor yr ysgol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, yn cwmpasu pob dull o deithio, fel y bws, y trên, cerdded a beicio, sy’n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion 5 - 19 oed.
Mae’r Cod yn gosod safon yr ymddygiad yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein plant a phobl ifanc wrth iddynt deithio rhwng yr ysgol neu’r coleg a’u cartref.
Fe ellir lawrlwytho’r Côd oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.