Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi lansio canllawiau i gynorthwyo partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i fynd i’r afael â thlodi plant yn eu hardaloedd.
Nod y canllawiau yw cynorthwyo partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i gael gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar dlodi plant ac i nodi gweithgareddau a fydd yn cael effaith sylweddol ar brofiadau bywyd plant a phobl ifanc.
Mae’r ddogfen yn cynnwys sawl astudiaeth achos o brosiectau sydd eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i’r afael â thlodi plant, ynghyd â chyngor ymarferol ar sut i nodi grwpiau sydd mewn perygl o dlodi plant a gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a chenedlaethol hefyd.
Fe ellir lawrlwytho'r canllaw oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.