Datblygwyd y Fframwaith Asesu Cyffredin electronig er mwyn helpu i nodi a darparu gwasanaethau ataliol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
Rhwng mis Hydref 2007 a mis Mehefin 2009, cynhaliwyd pedwar prosiect peilot yng Nghymru a gwerthuswyd y prosiectau hyn gan Brifysgol East Anglia a chwblhawyd y gwaith ym mis Chwefror 2009.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Asesu Cyffredin, y camau nesaf a'r dolenni i'r dogfennau gwerthuso perthnasol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.