Caiff y canllawiau hyn eu rhoi i bob person a chorff yng Nghymru a Lloegr sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag amddiffyn a hyrwyddo lles plant.
Mae unigolion a chyrff o'r fath yn cynnwys ysggolion, awdurdodau lleol, awdurdodau'r heddlu a phrif swyddogion yr heddlu, a thimau troseddau ieuenctid.
Mewn priodasau dan orfod, nid yw un neu'r ddau briod yn cydsynio â'r briodas (neu'n methu cydsynio yn achos rhai oedolion bregus) ac maent o dan bwysau. Gall hyn gynnwys pwysau corfforol, seicolegol, ariannol, rhywiol ac emosiynol.
Fe ellir lawrlwytho’r canllawiau oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.