Y mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau o’r newydd ar y materion gofal iechyd sydd gan geiswyr lloches.
Y mae’r adroddiad yn diweddaru Canllawiau Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol 2006 ynglŷn â materion iechyd a meysydd ar gyfer datblygu ymarfer ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Yr oedd angen y diweddariad hwn oherwydd deddfwriaeth / polisi sy’n newid ac ymddangosiad ymarfer da.
Y mae’r canllawiau newydd yn rhan o gynllun gwaith y Grŵp Cynghori ar Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru. Y mae hwn yn gorff i Gymru gyfan, a gadeirir gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, ac y mae amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol yn cael eu cynrychioli arno.
Y mae’r canllawiau’n ystyried yr heriau neilltuol a gynigir gan geiswyr lloches sy’n blant.
Y mae’r canllawiau ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.