Y mae hwn yn ganllaw sy’n dangos enghreifftiau o ymarfer da yr ymgymerir â hwynt gan bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Y mae’n amlygu gwaith da sydd wedi’i wneud a gwahanol brofiadau Cymunedau yn Gyntaf fel y gellir eu defnyddio fel sylfaen i symud ymlaen.
Y mae’r canllaw’n cael ei ddosbarthu i bob partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf ac Awdurdodau Lleol. Fe ellir ei lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y mae yna DVD yn dod gydag ef, sy’n amlygu deg o’r hanner cant o brosiectau a ddetholir fel enghreifftiau o ymarfer da.