Y mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi gwneud datganiad ar y Cyfnod Sylfaen, sef cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Mae’r datganiad yn cyhoeddi £5 million ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen,
Mae'r £5 miliwn ychwanegol ar ben y grant £25 miliwn a sicrhawyd yn 2008/09 i gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen o fis Medi ymlaen, ac mae'n dod o gyllideb adrannol gyfredol y Gweinidog.
Fe ellir lawrlwytho’r datganiad oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.