Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’u hymateb i Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ynglŷn â gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Fe gyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ym mis Mawrth 2008, ac fe wnaeth 12 o argymhellion.
Argymhelliad 1 oedd y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu uned eiriolaeth a gyllidir yn ganolog, gyda chyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth mewn ardaloedd lleol. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Yn hytrach, mewn datganiad a wnaed ym mis Mawrth 2008, fe gyhoeddodd y Gweinidog dros Blant y byddai yna Fwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol newydd yn cael ei greu, a fydd yn cymryd trosolwg strategol, annibynnol ar y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru, a chreu Uned Datblygu Eiriolaeth a Pherfformiad o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, ni fydd yr Uned yn comisiynu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol/yn rhanbarthol.
Fe ellir lawrlwytho’r ymateb oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.