Y mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Bridget Prentice, wedi gwneud datganiad gweinidogol ysgrifenedig ynglŷn â chanlyniad ymgynghoriad ar ffioedd llysoedd mewn achosion teulu yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus.
Fe gyhoeddwyd ymgynghoriad ar Ffioedd Teulu yn ymwneud â Chyfraith Gyhoeddus ym mis Rhagfyr 2007. Fe dderbyniwyd 111 o ymatebion oddi wrth awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, y farnwriaeth a chyrff eraill o randdeiliaid.
Y mae’r llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r codiadau a gynigir yn y ddogfen ymgynghori. Fe ddodwyd yr Offerynnau Statudol gerbron y Senedd ar y 9fed o Ebrill, 2008. Fe wnaeth y ddogfen ymgynghori gynnig cynyddu’n sylweddol y ffioedd ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus sy’n ymwneud â’r Ddeddf Plant, yn ogystal â gwneud newidiadau i ffioedd a godir am achosion Mabwysiadu.
Fe fydd yr ymateb i’r papur ymgynghori’n cael ei gyhoeddi yn llawn o fewn y ddau fis nesaf.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.