Y mae’r Gweinidog Cyfiawnder, David Hanson, wedi gwneud datganiad gweinidogol ysgrifenedig ynglŷn â’r adolygiad o’r defnydd o ataliaeth mewn lleoliadau diogel i blant.
Y mae’n datgan y bydd y Llywodraeth yn gohirio’u hymateb i’r adolygiad annibynnol o ataliaeth mewn lleoliadau diogel i blant tan yr 20fed o Fehefin fel eu bod yn gallu cymryd i ystyriaeth yn llawn ganfyddiadau sydd ar ddod i’r golwg oddi wrth ymchwil y mae Biwro Cenedlaethol y Plant yn ei gynnal i ataliaeth mewn cartrefi diogel i blant.
Fe ellir lawrlwytho’r datganiad oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder