Y mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’r Fframwaith Gwasanaeth Newydd ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eiriolaeth yn y Dyfodol ar gyfer Plant yng Nghymru.
Y mae’r datganiad yn datgan bod Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol newydd yn cael ei greu a fydd yn cymryd trosolwg strategol, annibynnol ar y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru, ac a fydd yn sefydlu Uned Datblygu Eiriolaeth a Pherfformiad o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Fe fydd y gwasanaeth eiriolaeth yn cynnwys Gwasanaeth Eiriolaeth a Chynghori Cenedlaethol newydd ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru a Gwasanaeth Eiriolaeth Arbenigol Integredig a gomisiynwyd yn lleol/rhanbarthol i gynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.
Y mae’r datganiad ar gael i lawrlwytho o’r dde.