Mae Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn darparu diweddariad ynglŷn â’r Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant.
Mae’r datganiad yn egluro y bydd y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant yn awr yn gweithredu fel Grŵp Cynghori’r Gweinidog, yn y gobaith y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gallu defnyddio’r grŵp yn fwy rhagweithiol.
Mae’r datganiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.