Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer y Gwarant i Bobl Ifanc.
Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn darparu cynnig gwarantedig o swydd, lleoliad gwaith neu le ar hyfforddiant i bob person 18-24 mlwydd oed sy’n ddi-waith dros yr hirdymor.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog £5 miliwn yn ychwanegol i gyflawni’r Gwarant yng Nghymru, yn ychwanegol at becyn gwerth £20.5 miliwn i gymorth diweithdra ymysg ieuenctid, a sicrhawyd yng nghyllideb mis Rhagfyr 2009.
Mae’r datganiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.