Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y gwasanaethau cymdeithasol i blant a ddarperid yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae’r datganiad yn egluro bod AGGCC wedi dechrau arolygu gwasanaethau cymdeithasol Abertawe dros blant a’r bwriad yw cyhoeddi adroddiad yr arolygiad tua diwedd mis Mawrth.
Fe ellir lawrlwytho’r Datganiad oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.