Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar adolygiad o'r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr.
Panel fydd yn cynnal yr adolygiad, gyda phedwar cynrychiolydd yn annibynnol ar lywodraeth y DU a'r llywodraeth ddatganoledig ac uwch gynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r datganiad ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol.