Mae Jane Hutt, y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau, wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar Y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Mae’r Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth y Cynulliad wedi manteisio ar y cyfle y mae'r Mesur hwn yn ei gynnig i geisio am bwerau fframwaith ar reoleiddio addysg yn y cartref i ddisgyblion o oedran addysg gorfodol, ac i gynnwys arolygu'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol i'r rhai hynny sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg i blant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref.
Mae’r datganiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.