Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar yr ymgynghoriad ar Strategaeth Tlodi Tanwydd diwygiedig Cymru.
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu bwriad gwreiddiol Llywodraeth Cynulliad Cymru o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, gan gynnwys canolbwyntio’n arbennig ar wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni yng Nghymru.
Mae’r datganiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.