Y mae Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’r Frech Goch ac MMR.
Y mae wedi’i adrodd mai fel ar 17.00 o’r gloch ar y 15fed o Fehefin 2009, cyfanrif yr achosion o’r frech goch yng Nghymru oedd 302, gyda 36 o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty.
Y mae’r datganiad yn amlinellu penderfyniad y Gweinidog i beidio â chyflwyno brechu MMR gorfodol ar gyfer plant yng Nghymru, gan y byddai’n cael effaith negyddol ar y berthynas rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn lleol.
Y mae yna daflen newydd ynglŷn â phwysigrwydd MMR, yn ogystal â brechiadau eraill, i’w datblygu a’i darparu i bob aelwyd yng Nghymru.
Y mae’r datganiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.