Mae Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar y cynnydd a wnaed ar y broses o roi’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ar waith ers iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2008.
Mae’r Mesur yn ehangu’r hawl i blant ysgol gynradd gael cludiant i’r ysgol am ddim, yn gwella diogelwch ac yn egluro’r ddarpariaeth o ran cludiant i’r ysgol am ddim yng Nghymru.
Mae’r datganiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.