Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi gwneud datganiad ysgrifenedig am ddatblygiadau o ran darparu Gwasanaethau Eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.
Sefydlwyd yr Uned Datblygu Eiriolaeth a Pherfformiad o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac ar hyn o bryd caiff aelodau eu recriwtio i'r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol.
Mae’r datganiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.