Datganiad gan Beverley Hughes, y Gweinidog dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, ynglŷn ag arsylwadau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ynglŷn ag adroddiad y Deyrnas Unedig ar eu gweithrediad o Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Fe ddywedodd Ms Hughes: "Yr wyf yn gyffredinol yn croesawu’r Arsylwadau Terfynol ac er bod meysydd o wahaniaeth gyda’r Pwyllgor yn parhau, fe fyddwn yn rhoi’r ystyriaeth ofalus i argymhellion y Pwyllgor y maent yn eu haeddu. Fe fydd y broses hon yn cynnwys deialog gyda chyrff anllywodraethol a’r pedwar Comisiynydd Plant yn y Deyrnas Unedig."Fe ellir darllen y datganiad llawn ar dudalen we Hansard Tŷ’r Cyffredin.