Mae Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hawlio budd-daliadau.
Yn 2006-07, dyrannodd Llywodraeth y Cynulliad £1.5m i awdurdodau lleol i'w cefnogi yn eu hymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor. Hawliodd tua 7,000 yn fwy o bobl dros 60 oed Budd-dal y Dreth Gyngor rhwng Mai 2005 a Chwefror 2007 ar draws Cymru gyfan.
Fe sefydlwyd weithgor i ymchwilio i'r rhwystrau i hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor yng Nghymru ac i dynnu sylw at arfer gorau a'i hyrwyddo, yn seiliedig ar brofiad yr awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i gynyddu nifer y ceisiadau am Budd-dal y Dreth Gyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r adroddiad nawr ar gael.
Mae’r datganiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.