Mae John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008, ag osodwyd o flaen y Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Gorffenaf 2008.
Bydd y Mesur arfaethedig yn darparu sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer un o raglenni mwyaf blaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llwybrau Dysgu 14-19, ac yn ceisio annog datblygiad pobl ifanc drwy greu hawl i ddysgwyr rhwng 14 a 19 mlwydd oed allu manteisio ar ystod ehangach, a mwy arloesol, o ddewis yn y cwricwlwm.
Fe ellir lawrlwytho’r datganiad odd ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.