Y mae Canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol, sy’n ganllaw diwygiedig ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu, yn defnyddio enghreifftiau o fywyd beunyddiol i gynorthwyo i egluro’r hyn y mae hawliau dynol yn ei olygu iddynt.
Fe gynhyrchwyd y llyfryn gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder gyda chymorth gan Gweithio gyda Geiriau, cyflenwr arbenigol o wasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu a llythrennedd isel. Y mae’n defnyddio enghreifftiau o waith, tai â chymorth, gwasanaethau dydd ac ymdrin â’r cyngor lleol i ddangos sut y mae hawliau dynol yn ymwneud â bywydau beunyddiol pobl.
Fe ellir lawrlwytho’r llyfryn oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.