Y mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant wedi cynhyrchu dau becyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw gyda rhieni sy’n camddefnyddio cyffuriau.
Fe gynhyrchwyd Children's voices a Seeing and hearing the child ar gyfer cynulleidfa amlasiantaethol ond fe ellir hefyd eu defnyddio i gydategu deunyddiau a ddefnyddir mewn hyfforddiant diogelu ar gyfer asiantaethau sengl. Eu nod yw diwallu anghenion ystod o weithwyr proffesiynol ledled gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg plant, yn ogystal â’r sawl sy’n ymwneud â gwasanaethau addysg ble y mae camddefnyddio sylweddau yn broblem.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.