Mae Llais Disgyblion Cymru wedi cynhyrchu pecyn cymorth hunan-werthuso i helpu staff a disgyblion i ddatblygu cyfranogiad gan ddisgyblion yn eu hysgolion.
Nod y pecyn yw helpu rheolwyr, staff a disgyblion i werthuso lle mae eu hysgol o ran datblygu agweddau gwahanol ar lais disgyblion, casglu tystiolaeth o weithgarwch, a chysylltu hyn â chanlyniadau gwell ar gyfer disgyblion a’r ysgol gyfan. Mae’r pecyn yn caniatáu i ysgolion wneud hyn yng nghyd-destun y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a defnyddio Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru.
Lawrlwythwch y pecyn cymorth