Mae’r Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, wedi lansio taflen o ganllawiau newydd sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl anabl ifanc ynglŷn â gwneud dewisiadau am eu dyfodol.
Nod y daflen, sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc 14-25 mlwydd oed, yw tywys pobl ifanc drwy’r opsiynau sydd ar gael, megis coleg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae’n amlygu’r gefnogaeth broffesiynol sydd ar gael, a gwybodaeth am linellau cymorth, amrywiol adnoddau a gwefannau rhyngweithiol.
Mae’r daflen ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.