Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi lansio pecyn ‘Bwyd mwy Diogel, Busnes Gwell’ (SFBB) yn neilltuol ar gyfer gwarchodwyr plant. Mae’r pecyn yn rhoi cyngor syml, uniongyrchol ynglŷn â diogelwch bwyd.
Mae llawer o warchodwyr plant bellach yn cael eu cynnwys o dan reoliadau diogelwch bwyd, ac mae’r pecyn wedi’i gynllunio i’w cynorthwyo hwy i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn gyda chyn lleied o waith papur â phosibl.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.