Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi taflen newydd yn cynnwys cyngor a fydd yn helpu pobl a theuluoedd i ymdopi ag effeithiau’r dirwasgiad.
Mae’r daflen yn rhoi manylion sefydliadau sy’n cynnig cymorth, yn ogystal â manylion mentrau eraill sy’n ymwneud ag arian, gwaith, iechyd a lles, a ffordd o fyw.
Mae, ymhlith pethau eraill, yn rhoi gwybodaeth am undebau credyd, budd-daliadau, y rhaglen ReAct, iechyd meddwl, nofio am ddim a gwirfoddoli.
Mae’r taflen ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac bydd ar gael yn y man hefyd ar ffurf copi caled mewn meddygfeydd, Canolfannau Cyngor ar Bopeth a chanolfannau cymunedol.