Diwedd yr ymgynghoriad: 3ydd o Hydref, 2008.
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â chynigion i ddatblygu’r peirianweithiau angenrheidiol a fydd yn galluogi plant i apelio i Dribiwnlys AAA Cymru.
Y mae’r cynigiad hwn yn cyd-fynd ag un o "Amcanion Craidd" Llywodraeth y Cynulliad": i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu clywed a’u trin gyda pharch.
Y mae Gorchymyn (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg a Hyfforddiant) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2008, y rhoddwyd Cydsyniad y Frenhines iddo ym mis Ebrill, yn golygu bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr y grym i ddeddfu ar Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Fe fydd yna ymgynghori â phlant a phobl ifanc drwy gyfres o weithdai a hwylusir.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy lawrlwytho’r ddogfen ar y dde.