Diwedd yr ymgynghoriad: 11/08/08
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynghylch cynlluniau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.
Mae’n rhan o gyfres o bapurau thematig sy’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud â sgiliau a nodwyd yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, y strategaeth ddrafft ar sgiliau a chyflogaeth. Mae’r papur yn berthnasol hefyd i fersiwn ddrafft Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (2008).
Mae'r papur ymgynghori hwn yn seiliedig ar dri maes gweithgarwch: y systemau cywir, y ddarpariaeth gywir a'r gefnogaeth gywir.
Fe ellir lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori oddi wrth wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.