English
Cofnodwch eich term chwilio
Cartref
|
Newyddion
|
Amdanom Ni
|
Ein Gwaith
|
Meysydd Gwaith
|
Aelodaeth
|
Polisi
|
Digwyddiadau
|
Hyfforddiant
|
Yn Eich Ardal
|
Swyddi
|
Cysylltiadau
Adran Aelodau
Archif Polisi
Confensiwn y CU
Cyhoeddiadau
Buddion Aelodaeth
Newyddion Polisi
Ymgynghoriadau
Ymgynghoriadau
Ein Ymatebion
Dogfennau
Deddfwriaeth
Trafodion
E-gyfarwyddiad
Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
Cyfarwyddiadau
Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant
Aelodau i Fewngofnodi
Enw Defnyddiwr (Cyfeiriad Ebost)
Cyfrinair
Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma
Archif/Cyfredol
Blwyddyn Archifol
[currentdocuments]
Y Blynyddoedd i Gyd
Cyn-2002
2002
2003
2004
2005
2006
2007
2008
2009
2010
2011
2012
Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu i'r Hawliau, 5/2/04 [C]
Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y 5ed o Chwefror, 2004, fe gyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt, y papur - Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau. Fe rydd y ddogfen hon fanylion y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y Cynulliad a'i ymrwymiadau ar gyfer y dyfodol.
Rhan 1: Ein Hymrwymiad
sy'n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad yn gysylltiedig â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC); Comisiynydd Plant Cymru; Cyfraniad plant a phobl ifanc; Datblygiad cynaladwy; Cosbi plant yn gorfforol; Plant mewn angen; ac Amrywiaeth a chyfle cyfartal.
Rhan 2: Gwneud i Bethau Ddigwydd
sy'n nodi'r newidiadau y mae'r Cynulliad yn dymuno'u gwneud er mwyn gweithredu'u hymrwymiadau, sy'n cynnwys archwilio gwaith Is-Bwyllgor y Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc; Adolygiad o ddiogelu plant sy'n agored i niwed; Partneriaethau Fframwaith; Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd; Arolygu; a gweithlu'r sector gofal, addysg ac iechyd.
Rhan 3: Y Saith Nod Craidd
sy'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud dros blant a phobl ifanc o dan bob un o'i amcanion craidd sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Nod 1: Cychwyn Bywyd yn Dda;
sy'n ystyried Cychwyn Cadarn; Cymorth i Rieni gyda Magu Plant; Addysg yn y Blynyddoedd Cynnar a Datblygu Medrau Iaith a Llythrennedd;
Nod 2: Ystod Gynhwysfawr o Gyfleoedd Addysg, Hyfforddiant a Dysgu;
sy'n cynnwys archwilio'r Wlad Sy'n Dysgu; Asesu a Phrofi; Gwrando ar Ddysgwyr; Bwlio; Gwahardd; Addysg gynhwysol; a Brecwast mewn ysgolion;
Nod 3: Yr Iechyd Gorau Posibl yn Rhydd oddi wrth Gamdriniaeth, Erlidigaeth a Chamfanteisio
sy'n ystyried plant mewn angen, diogelu plant, ac iechyd plant a phobl ifanc;
Nod 4: Gweithgareddau Chwarae, Hamdden, Chwaraeon a Diwylliant;
Nod 5: Eu Trin gyda Pharch a Chydnabyddiaeth i'w Hil a'u Hunaniaeth Ddiwylliannol;
Nod 6: Cartref a Chymuned Ddiogel
sy'n ystyried atal digartrefedd; troseddau ieuenctid; llwybrau diogel i'r ysgol, a chamddefnyddio cyffuriau;
Nod 7: Plant a Phobl Ifanc ddim dan anfantais oherwydd tlodi.
Rhan 4: Gosod Blaenoriaethau a Gwerthuso
sy'n nodi
ar gyfer ymgynghori
dull cenedlaethol drafft o weithredu i ddatblygu polisi, gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc, a gwerthuso'r gwahaniaeth a wnaed i'w bywydau. Fe gynigir strwythur o amcanion, targedau a dangosyddion sy'n cydweddu â saith nod craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Cynulliad. Y mae'n darparu sail ar gyfer strategaeth werthuso i farnu effeithiolrwydd y Fframweithiau a ffordd i bartneriaethau a'r Cynulliad weithio gyda'i gilydd. Fe gyflwynir Tablau yn y ddogfen sy'n nodi Deilliannau, Dangosyddion a Dull Gwirio ar gyfer pob un o'r saith nod craidd.
Fe ddylir anfon ymatebion erbyn
Dydd Gwener, 7 Mai 2004
at:
David Middleton
Tîm Fframwaith Plant
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
E-bost:
david.middleton@wales.gsi.gov.uk
Dolenni Cysylltiol
Children and Young People: Rights to Action