Cartref
|
Map o'r Safle
|
Telerau ac Amodau
|
Cysylltu a Ni
|
English
Aelodaeth
|
Newyddion
|
Amdanom Ni
|
Ein Gwaith
|
Meysydd Gwaith
Cyhoeddiadau
|
Digwyddiadau
|
Polisi
|
Yn Eich Ardal
|
Confensiwn y CU
|
Cysylltiadau
Chwilio
Cofnodwch eich term chwilio
Chwilio Manwl
Aelodau i Fewngofnodi
Enw Defnyddiwr
Cyfrinair
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma
Is-Dudalennau
Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
Newyddion Polisi
Ymgynghoriadau
»
Ymgynghoriadau
Adroddiadau ar Ymatebion i Ymgynghoriadau
Dogfennau
Deddfwriaeth
Trafodion
Cyfranogi
Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
E-gyfarwyddiad
Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
Lloegr, San Steffan a Whitehall
Gogledd Iwerddon
Yr Alban
Archif/Cyfredol
Blwyddyn Archifol
[currentdocuments]
Y Blynyddoedd i Gyd
Cyn-2002
2002
2003
2004
2005
2006
2007
2008
2009
3008
Yr ydych yn :
Polisi
»
Ymgynghoriadau
»
Ymgynghoriadau
»
Adroddiad y Tasglu Tlodi Ymysg Plant, 9/6/04 [C]
Adroddiad y Tasglu Tlodi Ymysg Plant, 9/6/04 [C]
Fe gafodd adroddiad sy'n amlinellu cyfeiriad strategol hirdymor ac argymhellion ar gyfer rhagor o weithredu ynglyn â goresgyn tlodi ymysg plant yng Nghymru ei lansio'n swyddogol ar y 9fed o Fehefin, 2004 gan y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt. Y mae'r adroddiad ar gael ar gyfer ymgynghori tan y 1af o Fedi, 2004 ac fe fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn dylanwadu ar y strategaeth derfynol.
Hyd y cyfnod ymgynghori: 9/6/04 - 1/9/04
Fe baratowyd yr adroddiad gan y Tasglu Tlodi Ymysg Plant, a gadeiriwyd gan Charlotte Williams, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Fe'i sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sail i'w gwaith o ddatblygu strategaeth i oresgyn tlodi ymysg plant yng Nghymru.
Y mae'r adroddiad yn cyflwyno cyfres o egwyddorion y mae'r Tasglu yn eu cynnig fel y sail ar gyfer y strategaeth. Y mae'n darparu mesuriad y cytunwyd arno ar gyfer mesur tlodi ymysg plant ac y mae'n nodi rhychwant o ddangosyddion a ddefnyddir i fesur perfformiad o ran goresgyn y tlodi. Y mae'n amlinellu'r materion allweddol a ddylai gael sylw fel y'u canfyddir drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc. Y mae'r adroddiad yn nodi materion allweddol i gael sylw wrth fynd ati i oresgyn tlodi ymysg plant yng Nghymru ac y mae'n cynnwys adrannau ar incwm, cyfranogiad a thlodi gwasanaethau. Ym mhob achos, fe ddarperir tystiolaeth i ddangos union arwyddocâd y mater o dan sylw, fe drafodir y polisi presennol ac fe gaiff argymhellion cysylltiedig eu hamlinellu. Y mae'r adroddiad yn pwysleisio nad yw tlodi yn perthyn yn daclus i bortffolios gweinidogol ond fod ganddo oblygiadau ar gyfer pob maes gan gynnwys addysg, y gwasanaethau cymdeithasol, hamdden a thai.
Fe ddywedodd y Gweinidog, Jane Hutt, y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio fel Cabinet i roi ymateb llawn i'r adroddiad.
Dolenni Cysylltiol
Report of the Child Poverty Task Group
Report of the Child Poverty Task Group