Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ar reoliadau drafft sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu seibiant i’r sawl sy’n gofalu am blant anabl.
Mae’r ddyletswydd wedi cael ei chyflwyno o dan Ddeddf Plant 2008 a’i nod yw cynorthwyo a chefnogi gofalwyr, a sicrhau y gallant barhau i ofalu’n effeithiol yn y dyfodol.
I weld manylion llawn ac i ddarllen y rheoliadau a’r ddogfen ganllaw, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Daw’r ymgynghoriad i ben 28 Mawrth 2012.