Diwedd yr ymgynghoriad: 31/03/2010
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar Ganllawiau Statudol ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr i bobl ifanc 14-19 oed.
Mae'n nodi'r cyfarwyddyd cyfreithiol a'r cyfrifoldebau o ran gwasanaethau cymorth ieuenctid ac yn egluro'r math o gymorth a chyfleoedd y dylai pobl ifanc eu disgwyl. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys canllawiau statudol ar ddyletswyddau newydd sydd wedi'u creu o dan Adrannau 40 a 43 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, yn ymwneud â Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr a'r ddogfen Llwybrau Dysgu.
Mae’r dogfen ymgynghori ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.