Diwedd yr ymgynghoriad: 21/08/09
Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’r dulliau o’u rheoleiddio yng Nghymru, ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar y pwnc.
Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad yn sgil ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o’r risgiau posibl i iechyd sy’n gysylltiedig â defnyddio gwelyau haul, yn enwedig pan fydd plant yn defnyddio salonau heb oruchwyliaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.