Diwedd yr ymgynghoriad: 28/08/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynnig i gynnwys data am iaith gyntaf disgyblion yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), y dulliau a gynigir i gasglu’r cyfryw ddata ac amlinelliad bras o’r canllawiau ar gyfer hwyluso’r broses o’i gyflwyno.
Diben gwneud hyn fydd:
(a) deall yn well yr amrywiaeth ieithyddol sy’n bodoli ymhlith poblogaethau ysgolion yng Nghymru; a
(b) bod o gymorth i Lywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion wrth iddynt gynllunio a darparu gwasanaethau i gynorthwyo disgyblion ag anghenion ychwanegol o safbwynt datblygiad ieithyddol er mwyn sicrhau y caiff pob disgybl bob cyfle i gyflawni ei botensial.
Fe ellir lawrlwytho’r dogfen ymgynghori oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.