Diwedd yr ymgynghoriad: 17/07/09
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â gwelliannau i Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.
Er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn adlewyrchu’r hyn sy’n ofynnol gan bolisi newydd, y mae’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â Rheoliadau Staffio Ysgolion (Lloegr) (Cydgrynhoi) 2009. Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru a Lloegr, y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig gwneud yr un newidiadau i Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 parthed y ddyletswydd gyfredol ar gyrff llywodraethol i roi ystyriaeth i’r cydbwysedd gwaith/bywyd sydd gan brifathrawon, a darpariaethau newydd yn ymwneud ag amodau cyflogaeth athrawon.
Y mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.