Diwedd yr ymgynghoriad: 03/08/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar yr opsiynau ar gyfer newid y system rhoi organau yng Nghymru, yn dilyn y Drafodaeth Gyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 27 Hydref 2008 a 23 Ionawr 2009.
Edrychodd y Drafodaeth Gyhoeddus ar a ddylai Cymru fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system Dewis Peidio â Rhoi Organau, a adwaenir hefyd fel ‘caniatâd tybiedig’. Mewn system dewis peidio â rhoi organau, gall meddygon dynnu organau o bob oedolyn sy’n marw – onibai fod rhywun wedi cofrestru i beidio â rhoi.
Fe ellir lawrlwytho’r dogfen ymgynghori oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.