Diwedd yr ymgynghoriad: 31/07/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y Cod Ymddygiad wrth Deithio sydd yn hyrwyddo trefniadau teithio diogel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc drwy amlinellu safonau’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt wrth iddynt deithio rhwng y cartref a'r ysgol.
Bydd y Cod yn pennu safonau cyffredin o ran ymddygiad, disgyblaeth a gorfodaeth ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sy’n teithio i’r ysgol ac oddi yno. Mae’n cwmpasu pob math o gludiant (nid dim ond bysiau ysgol) ac mae’n berthnasol i blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 19 oed.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn ymgynghori ar ganllawiau statudol sydd yn cyd-fynd â’r Cod ac yn pennu fframwaith ar gyfer ymchwilio i ddigwyddiadau yn ymwneud â theithio gan ddysgwyr er mwyn sicrhau bod safonau cyson o safbwynt ymddygiad, gorfodi a chosbau yn cael eu mabwysiadu ar draws Cymru.
Mae’r Cod Ymddygiad Drafft wrth Deithio a’r Drafft Canllawiau Statudol ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.